Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (81)v4 |
1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud) |
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud) |
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog
NNDM5045 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan eitem 3, 4 and 5 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, 18 Gorffennaf 2012. |
3. Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (15 munud)
NDM5038 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo
bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol
Cymru (Sefydlu) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r
fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai
2012. Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – Saesneg yn unig |
4. Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 (15 munud)
NDM4988 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Dileu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.
Dogfennau Ategol
Dogfen Esboniadol – Saesneg yn unig |
5. Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 (15 munud)
NDM5037 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2012.
Dogfennau
Atgol |
6. Dadl ar adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Ragolygon ar Gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru (60 munud)
NDM5041 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Nodi adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ragolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mai 2012.
Er gwybodaeth, gosodwyd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2012.
Dogfennau ategol: Adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y Broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop (60 munud)
NDM5042 Nick Ramsay (Mynwy)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Dylanwadu ar y broses o Foderneiddio Polisi Caffael Ewrop, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.
Yn nodi: Ymateb y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i’r adroddiad a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2012.
Dogfennau ategol: Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes |
8. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM5043 Aled Roberts (Gogledd Cymru) William Graham (Dwyrain De Cymru) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hyder yn y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. |
Cyfnod Pleidleisio |
9. Dadl Fer (30 munud)
NDM5044 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Dyslecsia ac Ysgolion: Cydweithio i Wneud Gwahaniaeth.
Mae angen cefnogaeth ar holl ddisgyblion Cymru i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, ac mae’n hanfodol bod pobl ifanc sydd â dyslecsia yn gallu cael yr asesiadau, yr ymyriadau a’r cymorth ychwanegol priodol y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Mae’r ffordd y mae athrawon yn defnyddio eu sgiliau, eu dulliau a’u cymwyseddau gyda phobl ifanc sydd â dyslecsia yn hollbwysig a gall wneud byd o wahaniaeth i gyfleoedd bywyd plentyn.
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 25 Medi 2012